YNGLŶN Â MENIG SIGNATURE LEATHER

Yma yn Signature Leather, rydym yn falch o gynnal traddodiadau’r gorffennol – lle caiff menig cain wedi eu dylunio yng Nghymru eu gwneud yn ofalus iawn gyda’r lledr gorau o Loegr yn y ffordd draddodiadol gan grefftwyr sy'n ymfalchïo yn eu crefft.

Er mwyn gwerthfawrogi’r grefft draddodiadol o lunio menig, rydym yn eich annog i wylio ein fideo gweithdy byr, chwe munud. Cewch weld sut mae'r grefft fanwl honno yn cael ei throsglwyddo o Feistr i brentis – a’i defnyddio wrth greu pob pâr o Fenig Signature.

UNIGRYW, I’R DIBEN

Mae ein holl fenig yn cael eu gwneud o'r newydd – dyna pam ei bod yn cymryd chwech i wyth wythnos i lunio pâr o fenig. Ein harcheb leiaf yw dim ond un faneg, sy'n gadael i ni gynnig gwasanaeth unigryw, i’r diben i'n cwsmeriaid i greu menig mewn cyfuniad lliw personol o ledrau ac edafedd – i fod yn unigryw yn y byd o fasgynhyrchu sydd ohoni. Ar ôl derbyn eich archeb byddwn yn rhoi gwybod i chi, ar sail eich lleoliad, sawl wythnos y bydd y menig yn ei gymryd i’ch cyrraedd.

Gall ein proffiliau Partneriaid Manwerthu byd-eang gael eu cyrchu o'n Tudalen Partneriaid Byd-eang a gall ein partneriaid gynnig arbenigedd llawn ar ddewisiadau maint a steil i'ch helpu i wneud eich dewis, gan ateb unrhyw gwestiynau. Yn ychwanegol, rydym ni yma i gynnig cymorth personol trwy’r ddeialog archebu ‘bodialox’ yr ydym yn eich annog i’w ddefnyddio i gyfathrebu â ni gan gynnwys unrhyw ddyluniad neu steil arbennig yr ydych yn dymuno ei ymgorffori yn eich archeb menig. Gallwch gysylltu â ni hefyd trwy Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. ar gyfer pob ymholiad.

Rydym wedi bod yn ffodus iawn i lunio diweddariad i’n gwefan yn 2019 a hynny yn seiliedig ar ffotograffiaeth hardd trwy gyfrwng delweddau trawiadol iawn o lens Amanda Dantuma, Elite Equestrian Events, Jennifer Carmichael, Jen Emig a Jo Monck Photography, yr ydym yn ddiolchgar iawn iddynt. Diolch yn fawr hefyd i Mark Anderson o OAD Design sydd wedi dod â phopeth at ei gilydd o ran ein gwefan, i Suzanna Okie a gynlluniodd ein tudalennau Partneriaid Manwerthu trawiadol ac i Lucy Douglas am ei gwasanaeth Prawf-ddarllen.